Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Nid fel fi, o 'rwy'n deall!
Ond aeth popeth o chwith o golli Berti, druan bach.

ELEN:
A cholli Berti'n lletchwithdod ac yn chwithdod i ni i gyd.

IFAN:
Mae pawb yn dannod Berti i mi, bob cynnig,—
ond 'roedd hurtrwydd ar Berti fel gwendid ei fam.
Berti roes dân yn tŷ-gwair, a'r dŵr wedi rhewi:
a dyna ddechrau'r gorwaered, heb ogor ond o'i brynu,—
troi'r 'nifeiliaid i'r borfa cyn bod blewyn ond brwyn,
a'u gwerthu tan draed, rhag eu clemio, fel ystyllod o denau.
'Rown i wrthi, fel slâf, â 'nhrwyn yn y pridd,
heb unioni o'm dau-ddwbwl, a phopeth yn drysu,—
yr heffrod yn erthylu er gwaetha'r dyn hysbys. . .

RHYS:
'Rym ni'n gwybod. 'Does neb yn dy feio di, Ifan bach.
Mae pobl y Dre'n llawn triciau, a'u pres yn creu cyfraith
a bair fod pob prynu'n ddrud, a phob gwerthu'n rhad
yn eu marchnad. Ffyrdd dynion sy'n gors
fel cors Glangors-fach; a'r felltith
o'r ddwy-gors a'n cododd ni'n grwn o'r gwraidd.

ELEN:
'Rym ni i gyd tan felltith y corsydd,—i gyd. . .

SAL:
. . . ond bod Ifan yn fwy ffwndrus a thrafferthus na'r rhelyw,—
mor ddiweld â dal ati am brynhawn wedi i'r gaseg
fwrw pedol a chloffi, a cholli tair wythnos.

IFAN:
Ond feddyliais i ddim, ac 'roedd raid cario dom,
a'r cymdogion yn ei wasgar a hau tatw fore trannoeth.

SAL:
A'r ast heb wardd arni yn cwrsio'r ŵyn-tac er dy regi,
a'u boddi'n y pwll-mawn; a'r cŵn ar y corygau'n difetha'r nôd clust.