Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SAL:
Ond 'roeddit ti, Rhys, yn wahanol i mi, heb ddim gwendid,
yn mesur dy gamre ac yn gwybod dy gerddediad,
yn abl cyn dy saldre,-ac yna'r iselder.

RHYS:
Gwall yn y co, ffit o golled, meddai'r crwner. . .

ELEN:
Clercyn o was cyfraith yn perota'i adnodau parod,
yn doethinebu â chlebar-wast, a phob diodde
iddo'n ail-law, ac yn glec i'r papurau.

RHYS:
Pwy a ŵyr beth yw'r gwir? Y crwner efallai.
Ond hyn a wn i: mod i'n gall yn dal bargen â'r enbydrwydd,
yn codi a distwn fy mhris gyda'r farchnad;
yn gall wrth borthmona fy hoedl i'r boen
hyd at daro'r llaw . . .

ELEN:
yn gall hyd y diwedd.

RHYS:
Tra fu'r boen yn ysigo fy nerth, ac yn lledu,
creffais ar y cyfri,-manylu ar ddwy-res mantolen yr arswyd,
y derbyn a'r talu;
dilynais y pin yn torri'r ffigyrau wrth adio'r cownt,—
'rown i'n dilyn, ac yn deall, hyd at y ffigwr diwethaf. . .

ELEN:-
ac wedyn—?

RHYS:
Pwy a ŵyr? Y crwner efallai. Ond 'rwy'n cofio
dal sylw ar y cloc, a chodi a mynd,
cyrraedd y ffon fagl a hercian i dowlad y beudy,
rhoi llaw ar war yr anner ddwyflwydd wrth fynd heibio;
clymu'r rhaff, unpen wrth y wymben a dolen yn y llall,
sefyll ar y mesur a gwisgo'r ddolen,—yn gall.
'Roedd yr hen gath felen yn y walbant
a'i llygaid melfed yn dal ar fy llygaid trwy'r munudau

SAL:
hyd y diwedd?