Gwirwyd y dudalen hon
“14K Y pŵer i fynnu gwybodaeth
- (1) Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—
- (a) sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a
- (b) sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu’n hwylus i’w cael at dibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.
- (2) Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
- (a) corff perthnasol;
- (b) unrhyw berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
- (3) Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i’w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
- (4) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.
- (5) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.”.
12 Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid Ar ôl adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—
“14L Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid
- (1) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o’r corff corfforaethol, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun.
- (2) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun.”.
13 Rheoliadau: ymgynghori
Ar ôl 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder—