Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (b) os yw D yn gwrthod ymrwymo mewn cytundeb setlo, caiff y Comisiynydd arfer ei bwerau o dan yr adran hon mewn modd gwahanol, ond nid oes angen iddo wneud hynny.
- (6) Os yw'r Comisiynydd yn gweithredu o dan is-adran (3), nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal y Comisiynydd rhag gwneud hefyd y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
- (a) rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
- (b) rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.
- (7) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
- Dim camau gorfodi gosodedig
- 78 Dim camau gorfodi gosodedig
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
- (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, ond
- (b) yn penderfynu—
- (i) peidio â gweithredu ymhellach, neu
- (ii) gweithredu o dan adran 77(4).
- (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi rhesymau'r Comisiynydd dros benderfynu—
- (a) peidio â gweithredu ymhellach, neu
- (b) gweithredu o dan adran 77(4) ac nid o dan adran 77(3).
- (3) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
- (4) Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae
- adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
- Atal methiant D i gydymffurfio rhag parhau neu gael ei ailadrodd
- 79 Gofyniad i baratoi cynllun gweithredu neu i gymryd camau
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
- (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
- (b) yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i D wneud un o'r pethau a ganlyn neu'r ddau ohonynt—
- (i) paratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio
- â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
- (ii) cymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad
- perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
- (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud.
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol bennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i D—