Tudalen:Noson o Farug.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JANE: Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch â hel meddylia.

ELIN (yn procio'r tân): Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud i'n reit anesmwyth.

JANE (yn awdurdodol): Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer.

ELIN (yn gwynfanus): Da ti, Jane, paid â 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.

JANE: 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.

ELIN: Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd : fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd. Dyna dy dad

JANE: Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd-mod i'n tynnu ar ôl 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.

ELIN: Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i.