ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cembro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeallus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny atolwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneitieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o ywrth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy llyfreu n y byd o iaith Camberaec, attolwg ew cludo at pwy ryw sawl Gymbry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gwladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa eruyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wueuthy defnydd da melyswiw, or llyfyr