Tudalen:Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl, gair a gweithred croes i ewyllys Duw a elwir yn bechod (IA wg35-1-172).pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl gair a gweithred croes i Ewyllys Duw a elwyr yn bechod.#

Deuter. 28. Levit. 26

Os dewch yn nes yr holl gwmpeini,
Chwi gewch glywed Addyfg genni,
Mewn Cynghanedd a scrythyre,
Fel a ddysgodd Duw i mine.

2 Rhoes fy amcan an holl feddwl,
ddychymig hvn o gwbwl,
A chyd chwilio trwy gydwybod,
Pwy ddrygioni fydd mewn pechod.

3 Dywaid llawer wrth draws amcan
Nad yw pechod ond peth bychan
Nid yw câl y sarph ond blewyn
Dug y bigad fywyd chwippyn.

4 Rhaff yw pechod sydd yn llusgo,
Pob drygioni lle bo'n trigo,
Haint a newyn plag a rhyfel,
Sydd yn canlyn gwas y cythrel.

5 Digio Duw mae'r bai Esgymyn,
A throir wyneb glân oddiwrthyn,
Stoppi glustie rhag ym gwrando,
Y mae pechod brwnt swthero.