Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV

MEWN DYRYSWCH

WEDI cyrraedd y byd newydd hwn, edrychasant o'u hamgylch, ac ni ddisgynnodd eu llygaid erioed ar ddim cyn llymed â'r olygfa o'u blaenau. Ni welid dim ond mynyddoedd a bryniau pigfain, geirwon, caregog; cymoedd llawn cerryg a llwch caled; a gwastadeddau diffrwyth, moel, ar bob llaw. Ac ni ellid cerdded ond ychydig heb ddyfod ar draws tyllau aruthrol yn y llawr.

Anodd iawn i'r bechgyn a syllasai gymaint ar y lleuad o'r twll tywod dan gysgod y Wal Newydd oedd credu mai dyma'r lleuad, a'r un mor anodd oedd credu mai wedi dyfod yn ôl i'r ddaear yr oeddynt, oherwydd annhebyg iawn oedd y wlad ddi-goed, di-laswellt, di-flodau, di-adar, a di-ffrydiau hon, i'r byd a adawsant ar ôl,-byd heb annifyrrwch ynddo, ond Seiat ac adnod un—waith yr wythnos, a darn diwrnod o ysgol bob dydd.

"Ymhle yr yden ni mewn gwirionedd, o ddifri, rwan?" ebe Moses yn grynedig.

Ni chlywodd yr hen ŵr ofyniad Moses, ac ni chlywid na si na sibrwd yn unman yn y wlad ryfedd hon. Gwlad ddistaw, ofnadwy ddistaw ydoedd. Llithrai cerryg mawrion i lawr y mynyddoedd, gan falu'n chwilfriw yn y gwaelod, ond mewn