Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi oedd llais, a synasant ill dau yn ddirfawr pan ddywedodd y dyn nad oedd yn ddim byd o'r fath. "Dyma ydi llais," eb ef, "fuoch chi rywdro'n lluchio cerryg i lyn dŵr?"

"Do, ugeinie o weithie," ebe'r ddau ar unwaith.

Gedwch inni weld," eb ef, "mi ddychmygwn ni ein bod ni ar lan llyn dŵr llonydd ar y ddaear.'

"Llyn y Cae Isa!" ebe Dic, â'i wyneb yn gloywi. A dechreuodd llygaid Moses lenwi wedyn.

"Wyt ti'n cofio, Dic," eb ef, "i'r rhew dorri o danon ni pan oedden ni'n sglerio ar Lyn y Cae Isa?—ac mi faswn i wedi boddi onibai ti."

"Prun fase'n well gen ti, bod rwan yn hanner boddi yn Llyn y Cae Isa, neu bod yma'n ddiogel ar dir sych?" ebe Dic.

"Hanner boddi yn Llyn y Cae Isa," ebe Moses yn daglyd," a hynny hefyd ar ddiwrnod o rew."

Chwerthin a wnaeth Dic.

"Ia, Llyn y Cae Isa os mynnwch chi," ebe'r dyn. Dyma fo'n hollol lonydd. Lluchiwch garreg i'w ganol o. Dyma donne crynion yn rhedeg ar ôl ei gilydd yn gyflym tua'r lan o'r lle y disgynnodd y garreg, ac yn taro ar y traeth y naill ar ôl y llall—gwrandwch arnyn nhw,—' dlap, dlap, dlap.' Rydech chi wedi sylwi nad yden ni'n cymyd ein gwynt yn y lleuad yma, am y rheswm nad oes yma ddim gwynt i'w gymyd, fel y deydes i wrthach chi cyn i ni gychwyn o'r ddaear. Ac onibae am y fale lleuad mi fasech wedi marw ers meityn. Dene un gwahaniaeth