Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llall bron wrth eu traed. Yr oedd mor ddiddorol ag osgoi peli eira, ac fel y gwyddoch, chwarae medrus iawn yw hwnnw. Wedi rhedeg a neidio, a neidio a rhedeg, am na wyddai neb pa hyd, a llochesu tipyn mewn ogofâu bob yn ail i oeri, heb ddim arwydd o nos yn agos, ciliasant i ogof wedi glân flino. Beth a welai'r dyn, yn y man, ond Dic yn ysgrifennu ar ddarn o garreg â charreg arall, a Moses yn torri rhyw ffigyrau ar damaid arall o garreg. Gwneuthur syms oedd Moses, ac nid oedd ond ychydig er pan ddiolchent eu bod wedi cael gwared o syms ac ysgrifennu am byth. Onid yw'n rhyfedd bod yn gas gennych bob amser yr hyn y bo'n rhaid i chwi ei wneuthur? ac y deuwch i'w hoffi'n iawn cyn gynted ag y bo'r gair "rhaid" wedi ei symud, a chwithau'n cael gwneuthur fel y mynnoch? Troes Moses at Ddic, a dywedodd,—

"Dic, a wyddost ti am yr adnod honno yn y Salme?" ac adroddodd adnod i Ddic, ac adroddodd Dic adnod yn ôl. A dyna lle bu hi am dipyn yn gystadleuaeth rhyngddynt am y goreu ddywedyd adnodau. Yr oedd dyn y lleuad yn eu gwylio ers meityn, heb ddywedyd gair. Toc, gofynnodd iddynt,—

"Yn enw pob rheswm, be ydech chi'n ei neud?"

Deyd adnode," ebe Dic yn swil.

Wel, wel," ebe'r dyn, "bechgyn rhyfedd ydech chi, eisio dwad o'r ddaear i gael gwared