Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hoff o ymladd â'i gilydd, yn lle sefyll fel un gŵr o flaen y gelyn.

6. Pan oedd Edwart y Cyntaf yn frenin Lloegr, bu y rhyfel rhwng y Saeson a'r Cymry yn boethach nag erioed.

7. Llywelyn ap Gruffydd oedd Tywysog y Cymry'r amser hwn. Dyn dewr iawn oedd ef, a mawr ei barch gan ei bobl.

8. Yr oedd llu o filwyr gan frenin Lloegr, ond bu raid iddo ymladd am amser hir cyn concro'r Cymry.

9. Pan oedd Dafydd ei frawd yn arwain y fyddin yn y Gogledd, aeth Llywelyn a'i wŷr i'r De i ymosod ar ei elynion yno.

10. Ar ei ffordd yn ôl daeth at Afon Irfon, gerllaw Llanfair ym Muallt. Yr oedd castell Norman yn y dref honno.