Landysilio, yr hwn a ofalai am ei geffylau, ac a fyddai weithiau yn helpio y Doctor i wneud y ffisig i fyny. Ni chlywais enw erioed ar y bach gen hwn ond Wil, gwas y Doctor. Cymro glân a smala oedd Wil, ac yr wyf yn ei gofio yn dda. Wedi i'r Doctor wneud y botel i fyny, dywedodd wrth Wil am ysgrifenu arni y byddai raid ei hysgwyd yn dda cyn rhoi y ffisig i'r claf. Ysgrifenodd Wil, – "He must be well shaken before taken", gan roddi he yn lle it. Pa un ai o ddireidi ai o anwybodaeth y gwnaeth efe hyn, nis gwn.
Pan gyrhaeddodd y botel i Gwm Tydi ni fedrai nac Ann nac Edward ddeall gair ysgrifen, oblegid ni chawsent awr o ysgol eu bywyd. Yr oedd yn Nghwm Tydi was o'r enw Abram, yr hwn a gawsai ychydig o ddysg, a galwyd ef i ystafell y claf "i ddarllen y botel," er mwyn gwybod sut yr oedd y ffisig i'w gymeryd. Dywedodd Abram wrth Ann, –
"Rhaid i ni ei ysgwyd yn dda cyn rhoi'r ffisig iddo."
"Ei ysgwyd?" ebe Ann.
"Ië," ebe Abram, "dyma fo'n deyd ar y botel, — "He must be well shaken before taken."
"Fedra i mo'i ysgwyd o, rydw i yn rhy wan," ebe Ann.