Gwirwyd y dudalen hon
Yn wyliadwrus byddo
Y gweithwyr trwy eu hoes,
Am fywyd pwyso byddont
Ar haeddiant angeu'r groes.
Trowch wragedd gweddwon, druain,
Eich golwg at yr Un
Sy'n gymorth mewn cyfyngder,
Yn Gyfaill byth â dyn;
Eich gofal rhoddwech iddo,
Gan blygu i ei air:
Y neb a'i caffo 'n eiddo
Yn ddiogel byth fe'u cair.
E. Griffiths, Argraffydd, Abertawy.