Tudalen:Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd (IA wg35-2-4870).pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TANCHWA Y MARDY


Mercher, Rhagfyr. 23, 1885.


80 wedi eu lladd


(All rights strictly reserved.)

Cymru anwyl, dyma eto
Hanes erch yr elfen dan,
Nid oes lawer iawn o amser
Er pan wnaeth hi rwyg o'r bla'n;
Yn y Mardy—tref anffodus!—
Mae wylofain mawr yn bod,
Teuluoedd llu yn drist eu cyflwr
Ac yn isel iawn eu nod.

Ar y drydydd dydd ar hugain
O fis Rhagfyr, cocliwch fi,
Clywyd swn fel erch ddaeargryn
Yn cynhyrfu'r creigiau cry';