Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.

19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o'r ddinas.

20 ¶ A'r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21 A Phetr, wedi adgofio, a ddywedodd wrtho, Athraw, wele y ffigysbren a felldithiaist, wedi crino.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:

23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i'r môr; ac nid ammheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.

24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo, credwch y derbyniwch, ac efe fydd i chwi.

25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:

26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau.

27 A hwy a ddaethant drachefn i Jerusalem ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid, a ddaethant atto,

28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?

29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau un gair; ac attebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? attebwch fi.

31 Ac ymresymmu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?

32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai prophwyd yn ddïau ydoedd.

33 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

PENNOD XII.

1 Trwy ddammeg y winllan a logwyd i lafurwyr anniolchgar, y mae Crist yn rhag-ddangos gwrthodiad yr Iuddewon, a galwad y Cenhedloedd: 13 y mae yn gochelyd magl y Phariseaid a'r Herodianiaid ynghylch talu teyrnged i Cesar; 18 yn argyhoeddi amryfusedd y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad; 28 yn atteb yr ysgrifenydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf: 35 yn beio ar dyb yr ysgrifenyddion am Grist; 38 ac yn gorchymyn i'r bobl ochelyd eu huchder a'u rhagrith hwy; 41 ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy na neb.

1 AC efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gwr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd le i'r gwin-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.

3 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrrasant ymaith yn wag-law.

4 A thrachefn yr anfonodd efe attynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrrasant ymaith yn ammharchus.

5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.

6 Am hynny etto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.