Bu farw yn nechren y flwyddyn 1887, yn 47 oed.—(Evan Reg. 1837; Brython, cyf ii., t.d. 182.)
EVANS, Parch. ENOCH, o'r Bala, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Wyr ydoedd i'r hybarch John Evans, Bala. Yr oedd llawer o bethau digrif, diniwaid, a phlentynaidd yn perthyn iddo. Cadwai beth dirifedi o adar o bob math a rhywogaeth yn ei dŷ, ac eisteddai am oriau yn y gwynfydedd penaf i wrandaw arnynt yn canu. Yr oedd yn cael rhyw hyfrydwch mawr gyda'r bodau lleiaf a mwyaf diystyredig yn y greadigaeth fywydol; byddai gan bryf copyn afael neillduol ar ei feddwl, ac ymdroai allan o bob hydoedd wrth fyned i'w gyhoeddiadau yn gwylio malwod a phryfaid genwair yn llwybreiddio i'w taith. Yr oedd yr ymdroadau hyn yn peri cryn anhwylusdod i'w frodyr crefyddol, gan y gorfodid hwy yn fynych i ddisgwyl E. Evans at ei gyhoeddiad, ac nid anfynych y byddai raid troi at "gyfarfod gweddi," gan y byddai amser y cyfarfod ymhell drosodd cyn i'r falwoden gyraedd pen ei siwrnai. Er hyn oll yr oedd yn Enoch Evans lawer o ragoriaethau amlwg fel pregethwr. Yr oedd yn ddarllenwr campus, yn ymadroddwr rhwydd a naturiol iawn, a'i faterion yn cynwys llawer o synwyr cryf a drychfeddyliau prydferth. Pan oedd rhai cyfeillion crefyddol ar ymweliad âg ef yn ystod ei gystudd olaf dywedai mewn ymddiddan y gallent wneyd pobpeth tua'r capel heb Enoc—canu, gweddio, &c., ond dywedai, "Ni pherffeithir hwynt heb poor Enoc."—(Geir. Byw, Liverpool.)
EVANS, EBENEZER, Bala, mab i'r Parch. Enoch Evans,
pregethwr parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef
Tachwedd 18, 1808. Rhoddodd ei rieni gymaint o ddysgeidiaeth
iddo ag oedd yn ddichonadwy i rai o'u sefyllfa a'u hamgylchiaidau
trwy wneuthur. Pan yn 16 oed datguddiodd yr Arglwydd Iesu
ei hun iddo mor rymus fel y gwaeddodd ar unaith, "Ac y'm ceir
ynddo ef." Cafodd anogaeth gan yr eglwys i arfer ei ddawn yn
y cyfarfodydd gweddiau, &c. Gwelwyd yn fuan ei fod yn un o
ddoniau helaeth, a meddwl cyflym a threiddgar. Yr oedd yn
fachgen hynod grefyddol, ac yn hynod o oleu yn yr Ysgrythyrau
Yr oedd awen y bardd yn helaeth ynddo. Dywedir iddo gyfansoddi llawer o farddoniaeth, er nad oedd ond ieuanc pan fu farw,