JONES, Parch. MICHAEL, athraw coleg yr Annibynwyr yn y Bala. Er nad oedd Mr. Jones yn enedigol o Swydd Feirion, eto fel y Parch. Michael Jones o'r Bala yr oedd ac y mae yn adnabyddus. Mab ydoedd i Daniel a Mary Jones, o'r Aipht, ger Neuaddlwyd, Sir Aberteifi, lle y ganwyd ef yn 1785 Yn 1807, daeth aelod o'r eglwys oedd dan ofal Dr Phillips, yn y Neuaddlwyd. Yn fuan dechreuodd bregethu. Aeth i'r ysgol at y Parch. D. Davies, Castellhywel. Yn 1810, aeth i athrofa'yn Ngwrecsam, o dan ofal Dr. Jenkin Lewis, lle y bu am ddwy flynedd, a dwy flynedd arall o dan Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1814, dewiswyd ef yn olynydd i'r Dr. G. Lewis fel gweinidog yr hen eglwys Annibynol yn Llanuwchlyn. Pan symudodd y coleg Annibynol o'r Dref Newydd i Aberhonddu, barnwyd fod diffyg yn y Gogledd am sefydliad i roi addysg i rai a fwriadent fod yn weinidogion. Penderfynwyd ar Lanuwchllyn fel lle cyfaddas, a Mr. Jones fel athraw. Yn 1841, symudodd i'r Bala, lle y mae yr athrofa wedi aros eto. Am ei gymeriad, yr oedd yn ŵr o feddwl penderfynol —yn feirniad craffus ar bob peth a ddarllenai ac a glywai—yn ysgrythyrwr hyddysg, manwl, a difrifol yn nghyflawniad ei ddyledswyddau teuluaidd. Yr oedd yn bregethwr dealltwriaethol, ac nid tymherog. Er ei fod yn anystwyth ei ymadrodd, yr oedd yn arbenigol adeiladol. Yr oedd ei bregethau yn wir efengylaidd, ac o dueddiad ymarferol. Yr oedd yn godwr boreu, yn efrydwr caled, yn ddirwestwr cyson, yn ddiysgog mewn bwriad a gweithrediad, ac yn dduwiolfrydig yn ei ymlyniad parhaol hyd angau. Nid oedd odid i gelfyddyd nad oedd ganddo ef lawer o wybodaeth yn ei chylch. Yr oedd yn hanesydd gwladol ac eglwysig cyfarwydd yn ieithydd da, yn seryddwr gwych, ac yn cael mawr hyfrydwch mewn daeareg yn ei flynyddau olaf. Yn 1816, priododd Mr. Jones gyda Mary Hughes, o Gwmcarnedd, Llanbrynmair. Bu farw Hydref 27, 1853, yn 68 oed. Mab iddo ydyw y Parch. M. D. Jones, llywydd presenol yr athrofa.—(Geir. Byw. Lerpwl, Geir. Byw. Aberdar.)
JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tafarnytrip, yn mhlwyf Ffestiniog, yn Nghwmwd Ardudwy, Hydref 17, 1784. Yn haf, 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr i gadw un o'i ysgolion rhad symudol Cymreig, yn mhlwyf Maentwrog, lle yr