Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhywun alw sylw ato. Fel cauodd Dafydd Ionawr ei ddrws yn ei wyneb, felly y cauodd Cymru ei drws rhagddo hyd yn hyn. Swynwyd ef, fel y swynwyd Fox a Wordsworth ac ereill, gan amcanion y Chwyldroad Ffrengig,— rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Darllennodd hanes yn ddyfal, dadblygodd y ddawn oedd ynddo at watwareg,—ac ysgrifennodd y Seren tan Gwmwl. Ond, dan ei holl watwar a dirmygu, y mae ystor o gydymdeimlad â'r gorthrymedig, a difrifoldeb y gwir wleidyddwr.

Y mae'r ty hwn, yn ol pob tebyg, yn union fel yr oedd pan ofnai Jac y gors. Ar y chwith o'r drws y mae grisiau trymion yn arwain i'r llofftydd, ar y dde y mae'r gegin. Ystafell fawr yw hon, ar draws y ty, a ffenestri ynddi, wyneb a chefn. Uwchben y simdde hen ffasiwn y mae dau gleddyf allasent fod wedi gweled y Rhyfel Mawr; arhosant yn y ty trwy bob newid tenant. Gŵr y cleddyf oedd y gŵr a fagwyd yma; a hawdd y gallasai gofio, wrth ddal cleddyfau Cyfiawnder a Chydraddoldeb, am hen gleddyfau ei gartref.

Y mae Glan y Gors a'r Perthi Llwydion mor agos i'w gilydd fel y deuant i'r un darlun.[1] Ganwyd Edward Morris a John Jones ar adegau tebyg,—adegau chwyldroad a rhyfel. Yr oedd y ddau'n borthmyn ac yn wladgarwyr, crwydrodd y ddau i Loegr, mae'r ddau'n huno ymhell oddiyma. Hoffodd y ddau Gymru â hoffder

  1. Gweler gwyneb-ddarlun GWAITH EDWARD MORRIS. (R. E. Jones, Conwy).