ond cymar ofal efo'r gongol bella' acw rhag iddi hi falu o dan y gyllall. Dim ots os gwneiff hi. Mi gei naddu llechan lai ohoni hi wedyn . . . Diawch, un peth'ma ydi hwn efo'r prenmesur a'r gyllall, Lias Tomos!"
Ond nid oedd Elias Thomas fel petai'n hoffi brwdfrydedd ei bartner uwch gorchestion y "jermon" newydd. Hy, os oedd o'n dal i feddwl y medrai o wneud pregethwr ohono, meddyliodd Owen, 'wnaeth o erioed fwy o gamgymeriad! . . .
"Dacw fo dy dad. 'Weli di o?"
Cerddai George Hobley ac Owen o'r bonc tua'r Twll.
"I fyny ar y rhaff acw? Dew!"
"Ia, ond yn y rhaff, nid ar y rhaff, fydd chwarelwr yn ddeud, wsti."
Gadawsant y bonc ymhell o'u holau a dilyn y rheiliau haearn i'r Twll ac yna ar ei draws at fargen Robert Ellis. A'r rhaff am ei forddwyd a'i ganol, a'i draed ar grib yn y graig, curai ef yr ebill hir yn ddyfnach, gan roi tro ynddo o guriad i guriad. "Mae o'n ddigon hir bellach, Bob," gwaeddodd George Hobley.
"Ydi, mi wneiff y tro, George. 'Ddoist ti â'r powdwr a'r ffiws a'r stamping?"
"Do, dyma nhw."
"Estyn nhw i mi."
Llaciodd y rhaff oddi am ei ganol, gan adael tro am ei forddwyd, ac yna gollyngodd raff fain i lawr i afael ei bartner. Rhoes yntau gwlwm am glust y botel bowdr, a phen y rhaff drwy'r cnotyn ffiws. Tynnodd Robert Ellis hwy i fyny a'u rhoi mewn lle diogel cyn gollwng y rhaff i lawr eilwaith am y 'pren stampio' a'r bagiaid o 'stamping'. Yna yn araf a gofalus, gan benlinio ar ei ben glin chwith ar y grib lle.safai, tywalltodd beth o'r powdr i'r twll. Gwyliodd Owen ef wedyn yn gwthio'r ffiws.