Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhan yn y moddion cyhoeddus, yr oedd ei gôt, yr hon oedd bob amser o liw tywyll, gyda gwasgod yn cau yn glos at y gwddf, ynghyd a'r ymarferiad o amddiffyn у rhan a enwyd olaf â muffler pan y byddai yr hîn heb fod yn gynhes iawn, yn dangos yn eglur at ba alwedigaeth yr oedd yn cymhwyso ei hun. Tra nad oedd y nifer lliosocaf o'i gyfoedion yn cofio ar nos Sadwrn pwy a fyddai wedi ei gyhoeddi i bregethu yno drannoeth, byddai Noah yn cofio yn dda, ac yn gwybod o ba gyfeiriad i'w ddysgwyl, ac yn gyffredin yn myned i'w gyfarfod, a'i arwain i'w letty. Er nad oedd wedi hysbysu ei gyfrinach i neb, yr oedd amryw yn gallu ei ddarllen, ac yn gwybod cystal ag ef ei hun fod ei lygaid ar rywle y byddai raid i'r blaenoriaid edrych i fyny ato, fel nad oedd raid iddo wneyd penderfyniad mor gadarn na chymerai ei ddewis yn flaenor.

I dori yr hanes yn fyr, caniatäwyd cais yr eglwys gan y Cyfarfod Misol, a phenodwyd dau frawd i fyned yno i ddwyn y dewisiad oddiamgylch. Noswaith y cyfarfod eglwysig, wythnos cyn yr adeg yr oedd y dewisiad i gymeryd lle, ystyriai William Thomas hi yn ddyledswydd arno alw sylw y frawdoliaeth at yr amgylchiad, a'u hannog i weddïo am ddoethineb a chyfarwyddyd i wneyd pobpeth mewn tangnefedd a chariad, er lles yr achos, a gogoniant y Pen mawr. Tra yr oedd efe yn myned ymlaen yn y ffordd hyn, yr oedd yn eistedd yn ymyl y sêt fawr, a'i phwys ar ben ei ffon, hen wreigan ddiniwed a duwiol, yr hon a