Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

26 Dwg y gorau o flaen-ffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.

27 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.

28 Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.

29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.

30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesâu atto ef.

31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddychwelasant atto ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai.

33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes lèn gudd ar ei wyneb.

34 A phan ddelai Moses ger bron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llèn gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchymynid iddo.

35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llèn gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai lefaru wrth Dduw.


Pennod XXXV.

1 Y Sabbath. 4 Ewyllysgar offrymmau i’r tabernacl. 20 Parodrwydd y bobl i offrymmu. 30 Galw Bezaleel ac Aholïab i’r gwaith.

Casglodd Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma y pethau a orchymynod yr Arglwydd eu gwneuthur.

2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Sabbath gorphwys i’r Arglwydd: llwyr-rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

3 Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabbath.

4 ¶ A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5 Cymmerwch o’ch plith offrwrn yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,

6 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

8 Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd,

9 A meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd;

11 Y tabernacl, ei babell-lèn a’i dô, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau,

12 Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia,

13 Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos,

14 A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer; a’i lampau, ac olew y goleuni,

15 Ac allor yr arogl-darth, a’i throsolion ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl,

16 Allor y poeth-offrwm a’i halch bres, a’i throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed,

17 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt,

19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20 ¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.

21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.