Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1075

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

feddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd.

8:18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni.

8:19 Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.

8:20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd:

8:21 Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw.

8:22 Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.

8:23 Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.

8:24 Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?

8:25 Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.

8:26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.

8:27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.

8:28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.

8:29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer.

8:30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.

8:31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn?

8:32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth;

8:33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau:

8:34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.

8:35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf?

8:36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa.

8:37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni.

8:38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,

8:39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.


PENNOD 9

9:1 Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân,

9:2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i’m calon.

9:3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: