Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1087

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

5:1 Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.

5:2 Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

5:3 Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,

5:4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,

5:5 Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

5:6 Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?

5:7 Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:

5:8 Am hynny cadwn wâyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

5:9 Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr:

5:10 Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilunaddolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd.

5:11 Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilunaddolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.

5:12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

5:13 Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.


PENNOD 6

6:1 A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

6:2 Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf?

6:3 Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn?

6:4 Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.:

6:5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6:6 Ond bod brawd yn ymgyfreithio brawd, a hynny gerbron y rhai di-gred?

6:7 Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?

6:8 Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr.

6:9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godin¬ebwyr, nac eilunaddolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,

6:10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

6:11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

6:12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.

6:13 Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff.