Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1105

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.

13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;

14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu cu diffyg hwy, fel y byddo eu hdaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:

15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.

16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus.

17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun.

18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi;

19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a:ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith & ni a’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:

20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio iarnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym:

21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau nest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.

23 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y iBiawr yrnddiried y sydd gennyf ynoch.

23 Os gofynnir am Titus, fy nghyd-ymaith yw, a chydweithydd tuag atoch .chwi, neu am ein brodyr, cenhadau’r .eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.

24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n host tdnnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.


PENNOD 9

1 CANYS tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch:

2Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.

3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn ninharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hydetus.yma.

5 Mi a dybiais gan hynny yn angen-rheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ‘ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid "megis o gybydd-dra.

6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.

7 Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:

9 (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dra-gywydd.

10 A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)

11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd toon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y Saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy ami roddi diolch i Dduw;