Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1125

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd;

1:12 Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni:

1:13 Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab:

1:14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:

1:15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur:

1:16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.

1:17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

1:18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.

1:19 Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;

1:20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.

1:21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,

1:22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:

1:23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:

1:24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni'r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw'r eglwys:

1:25 I'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw;

1:26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:

1:27 I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant:

1:28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:

1:29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.


PENNOD 2

2:1 Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;

2:2 Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylitu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;

2:3 Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.

2:4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.

2:5 Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.

2:6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodioch ynddo;

2:7 Wedi eich gwreiddio a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis y'ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.

2:8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag