a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
28 A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gyssegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd.
29 Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cyssegriad oedd hi; fel y gorchymynasai yr Arglwydd with Moses.
30 A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gyssegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.
31 ¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cyssegriadau; megis y gorchymynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef.
32 A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.
33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cyssegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.
34 Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchymynodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch.
35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchymynwyd.
36 A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchymynodd yr Arglwydd trwy law Moses.
Pennod IX.
1 Yr offrymmau cyntaf a offrymmodd Aaron drosto ei hun a’r bobl. 8 Y pech-offrwm, 12 a’r poeth-offrwm drosto ei hun. 15 Yr offrymmau dros y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 24 Tân yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd ar yr allor.
YNA y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel;
2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg hwy ger bron yr Arglwydd.
3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwyddiaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;
4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu ger bron yr Arglwydd; a bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddyw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5 ¶ A dygasant yr hyn a orchymynodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr Arglwydd.
6 A dywedodd Moses, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.
7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boeth-offrwm, a gwna gymmod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt; fel y gorchymynodd yr Arglwydd.
8 ¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwer a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
11 A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll.
12 Ac efe a laddodd y poeth-offrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch.
13 A dygasant y poeth-offrwm atto, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor.
14 Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15 ¶ Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymmerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymmodd dros bechod, fel y cyntaf.