Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd.

º30 A gv/naeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

PENNOD 24 º1 PAN welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr ARGLWYDD fendithio Israel; nid aeth efe, megis o’r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua’r anialwch.

º2 A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd Duw amo ef.

º3 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;

º4 Gwrandawydd geiriau Duw a ddy¬wedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:

º5 Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob"! dy gyfanheddau di, O Israel!

º6 Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

º7 Efe a dywallt ddwfr o’i ystenau, a’i had fydd mewn dyfroedd lawer, a’i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a’i frenhiniaeth a ymgyfyd.

º8 Duw a’i dug ef allan o’r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgym, ac a’i saethau y gwana efe hwynt. r75

º9 Efe a gryma, ac’a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a’i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.

º10 Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’u bendithiaist y tair gwaith hyn.

º11 Am hynny yn awr ffo i’th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y’th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr ARGLWYDD di oddi wrth anrhydedd.

º12 A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd,

º13 Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr ARGLWYDD, i wneuthur da neu ddrwg o’m meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a lefaraf fi?

º14 Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna’r bobl hyn i’th bobl di yn y dyddiau diwethaf.

º15 (t Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a’r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed;

º16 Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:

º17 Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teymwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.

º18 Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymustcr.

º19 Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o’r ddinas.

º20 A phan edrycliodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac d ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a’i ddiwedd fydd darfod amdano byth.

º21 Edrychodd hefyd ar y Ccncaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dylwyth yn y graig.

º22 Anrheithir y Ceneaid, hyd oni’th gaethiwo Assur.

º23 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn?

º24 Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.

º25 A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.

PENNOD 25