Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º29 Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr ARGLWYDD ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth, fel’ y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

PENNOD 30

º1 APHAN ddelo yr holl bethau hyn ‘arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr ARGLWYDO dy DDUW di atynt,

º2 A dychwelyd ohonot at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, a’th holl galon, ac a’th holl enaid:

º3 Yna y dychwel yr ARGLWYDD dy DDUW dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr AR¬GLWYDD dy DDUW di.

º4 Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oddi yno y’th gymerai.

º5 A’r ARGLWYDD dy DDUW a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau.

º6 A’r ARGLWYDD dy DDUW a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr AR¬GLWYDD dy DDUW a’th holl galon, ac a’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.

º7 A’r ARGLWYDD dy DDUW a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di.

º8 Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr ARGLWYDD, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.

º9 A’r ARGLWYDD dy DDUW a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn f&wyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr ARGLWYDD i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

º10 Os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW a’th holl galon, ac a’th holl enaid.

º11 Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

º12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnel¬om ef?

º13 Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

º14 Canys y gair sydd agos iawn atati yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.

º15 Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

º16 lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orch¬mynion, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

º17 Ond os try dy galon ymaith, fel’ na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt;

º18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi.

º19 Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi honof o’th flaen di einioes ac angau, tendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;

º20 I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

PENNOD 31