Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/277

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD 18

º1 YN y dyddiau hynny nid oedd brenin; yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.

º2 A meibion Dan a anfonasant o’u tyiwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno.

º3 Pan oeddynt hwy wrth dy Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yroa?

º4 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fet, hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi.

º5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, a Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.



º6 A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr ARGLWYDD y mae eich ffordd chvn, yr hon a gerddwch.

º7 Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.

º8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi?

º9 Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad.

º10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.

º11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

º12 A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriathjearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r til ôl i Ciriathjearim.

º13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dy Mica.

º14 A’r pumwr, y rhai a aethent i Chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a ther-affim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

º15 A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dy y gŵr leuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo.

º16 A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, scf y rhai oedd o feibion Dan.

º17 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y. ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel,

º18 A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?

º19 Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw a son; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad; ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th