Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef.

º11 A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr. Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.

º12 A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

º13 Ac efe a ddywedodd wrth ei lane, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

º14 Felly y cerddasant, ac yr aethant; a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

º15 A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dy i letya.

º16 Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

º17 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinasi a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr el di? ac o ba le y daethost?

º18 Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, fc ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hairwyg: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr ARGLWYDD; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ.

º19 Y mae gennym ni wellt ac ebraa. hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim.

º20 A’r hen ŵr a ddywedodd, Tang-nefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf; fi; yn unig na letya yn yr heol.

º21 Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ,, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac 8i yfasant.

º22 A phan oeddynt. hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinaSt, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant. wnh berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef.;

º23 A’r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allaa atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gŵr hwn ddyfod. i’m ty i, na wnewch yr ysgelerder hyn.

º24 Wele fy merch, yr hon sydd forwyn a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler.

º25 Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaefhant gam a hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith.

º26 Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws ty y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.

º27 A’i harglwydd a gyfododd y bore ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei oik--, dderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy. .

º28 Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w. fangre.

º29 A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch. ac a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.

º30 A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni wet-wyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwi.

PENNOD 20

º1 YNA holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o