Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun.

º3 A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.

º4 A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal. "

º5 A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraiil cyn amied a’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Bethafen.

º6 Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymgudd’asant mewn ogofeydd, ac mewn drysnii?? ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, aemewn pydewau.

º7 A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.

º8 Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.

º9 A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac ofrrymau hedd. Ac efe a onrymodd y poethonrwm.

º10 Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.

º11 A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas;

º12 Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr AR¬GLWYDD: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.

º13 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.,

º14 Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na ched* waist ti yr hyn a orchmynnodd yr AR¬GLWYDD i ti.

º15 A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.;

º16 A Saul a Jonathan ei fab, a’r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a’r Philistiaid awersylfcasânt ym Michmas. ., .

º17 A daeth allan 6 wetSyll"y Philist¬iaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Of&a, tua gwlad Sual;;

º18 A’r fyddin arall a drodd tua ffordd Bethhoron: a’r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tUA dyffryn Seboim, tua’r anialwch.

º19 Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid;} Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfafl neu waywffyn.

º20 Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a’i gwlltwr, a’i fwyell, a’i gaib.

º21 Ond yr oedd llifddur i wneuthut min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac at y picnyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu’r symbylau.

º22 Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.

º23 A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.

PENNOD 14