Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.

º8 A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gesriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Ain’t.

º9 A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynnod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwel¬odd ac a ddaeth at Achis.

º10 Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid.

º11 Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.

º12 Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.

PENNOD 28

º1 AR Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr.



º2 A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was; ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

º3 A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad. ‘

º4 A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunenu a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa.

º5 A phan welodd Saul wersyll y Philist¬iaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.

º6 A phan ymgynghorodd Saul a’r AR~ GLWYDD, nid atebodd yr ARGLWYDD iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.

º7 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen, ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf a hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.;

º8 A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at ywraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd’ dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

º9 A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r’ dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magi yn erbyn fy’’ einioes i, i beri i mi farw?

º10 A Saul a dyngodd wrthi hi i’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.

º11 Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywed¬odd, Dwg i mi Samuel i fyny.

º12 A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.

º13 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear.

º14 Yntau a ddywedodd wrthi. Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gwr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo manteil. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe, ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.

º15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law pro-