Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/391

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn.

3:15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef.

3:16 Ac efe a ddywedodd. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

3:17 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid.

3:18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.

3:19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig.

3:20 A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfr¬oedd.

3:21 A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.

3:22 A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed:

3:23 A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhin¬oedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab.

3:24 A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun.

3:25 A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.

3:26 A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy.

3:27 Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.

PENNOD 4 4:1 A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.

4:2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.

4:3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.

4:4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.

4:5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd.

4:6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywed¬odd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd.

4:7 Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.

4:8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara.

4:9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanct-