Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/408

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed fiwyddyn i Jotham mab Usseia.

º31 A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifen¬edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

º32 Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu.

º33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd

efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc.

º34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.

º35 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr AR¬GLWYDD.

º36 y A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

º37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia.

º38 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 16 º1 YN y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu.

º2 Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, fel Dafydd ei dad:

º3 Eithr rhodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º4 Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y brymau, a than bob pren gwyrddlas.

º5 Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.

º6 Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.

º7 Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglathpileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.

º8 Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria.

º9 A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a’i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.

º10 A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglathpileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.

º11 Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.

º12 A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a’r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.

º13 Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a’i fwyd-offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod-offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.

º14 A’r allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, a dynnodd efe ymaith o daloen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor.

º15 A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddy-