Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/417

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

i’r brenhin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr ARGLWYDD.

º10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd’ i’r brenin, gan ddywedyd, Hiloeia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin.

º11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

º12 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd,

º13 Ewch, ymofynnwch a’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni.

º14 Felly Hiloeia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydcs, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.

º15 A hi a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwiataffi;

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddar-llenodd brenin Jwda:

º17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

º18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Am y geiriau a glywaist ti;

º19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD.

º20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

PENNOD 23 º1 A’R brenin a anfonodd, a holl henuriaid i - Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef.

º2 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr AR¬GLWYDD, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º3 Sl A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr AR¬GLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, a’i holl galon, ac a’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod.

º4 A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr archoffeiriad, ‘ae i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allatt o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl ru’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron; ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.

º5 Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldartha yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu y nefoedd.