Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/427

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus;

5:15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.

5:16 A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau.

5:17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

5:18 Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.

5:19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.

5:20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.

5:21 A hwy a gaethgludasant eu hani¬feiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil.

5:22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth DDUW; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

5:23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal-hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.

5:24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

5:25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt.

5:26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath-pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.

PENNOD 6

6:1 MEIBION Lefi; Gerson, Cohath, a Merari.

6:2 A meibion Cohath; Amram, Ishar, a Hebron, ac Ussiel.

6:3 A phlant Amram; Aaron, Moses, a Miriam: a meibion Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

6:4 Eleasar a genhedlodd Phinees a genhedlodd Abisua,

6:5 Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi,

6:6 Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth.

6:7 Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,

6:8 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas,

6:9 Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan,

6:10 A Johanan a genhedlodd Asareias (hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:)

6:11 Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,

6:12 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum,

6:13 A Salum a genhedlodd Hiloeia, a Hiloeia a genhedlodd Asareia, .

6:14 Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac:

6:15 A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr ARGLWYDD Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.

6:16 Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari. .

6:17 A dyma enwau meibion Gersem, Libni, a Simei.

6:18 A meibion Cohath; Amrani, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel.

6:19 Meibion Merari; Mahli, a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau.

6:20 I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau,

6:21 Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau.

6:22 Meibion Cohath; Aminadab