Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/429

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

6:64 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol.

6:65 A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.

6:66 I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim

6:67 A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol,

6:68 Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol,

6:69 Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol.

6:70 Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath.

6:71 I feibion Gersom o deulu hanner hwy llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol.

6:72 Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd pentrefol,

6:73 Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem a’i meysydd pentrefol.

6: 74 Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol,

6:75 Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol a Rehob a’i meysydd pentrefol.

6:76 Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol.

6:77 I’r rhan arall o feibion Merari rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol.

6:78 Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol,

6:79 Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol., a Meffaath a’i meysydd pentrefol.

6:80 Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol,

6:81 Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol.

PENNOD 7

7:1 A MEIBION Issachar oedd. Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar.

7:2 A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant.

7:3 A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll.

7:4 A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion.

7:5 A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.

7:6 A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri.

7:7 A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd. wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a-phedwar ar ddeg ar hugain.

7:8 A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth; y rhai hyn oll oedd feibion Becher.

7:9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant.

7:10 A meibion Jediael; Bilhan: a meib¬ion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar.