Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Judah. A hi a beidiodd â phlanta.

Pennod XXX.

1 Rahel, gan fod yn ddigllawn nad oedd yn planta, yn rhoddi Bilhah ei llaw-forwyn i Jacob. 5 Hithau yn dwyn Dan a Naphtali. 9 Leah yn rhoddi Zilpah ei llaw-forwyn, yr hon a ymddûg Gad ac Aser. 14 Reuben yn cael mandragorau, am y rhai y mae Leah yn prynu ei gwr gan Rahel. 17 Leah yn dwyn Issachar, Zabulon, a Dinah. 22 Rahel yn dwyn Joseph. 25 Jacob yn deisyfu cael myned ymaith. 27 Laban yn ei attal ef ar gyfammod newydd. 37 Dyfais Jacob, trwy yr hon yr ymgyfoethogodd efe.

Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid ê mi a fyddaf farw.

2 A chynneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a attaliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?

3 A dywedodd hithau, Wele fy llaw-forwyn Bilhah, dos i mewn atti hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd o honi hi.

4 A hi a roddes ei llaw-forwyn Bilhah iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn atti.

5 A Bilhah a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

6 A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

7 Hefyd Bilhah, llaw-forwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.

8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Naphtali.

9 Pan welodd Lea beidio o honi â phlanta, hi a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpah, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob.

10 A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg fab i Jacob.

11 A Leah a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12 A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg yr ail mab i Jacob.

13 A Leah a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

14 ¶ Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhauaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Leah ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Leah, Dyro, attolwg, i mi o fandragorau dy fab.

15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn o honot fy ngwr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyd â thi heno am fandragorau dy fab.

16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Leah a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Attaf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyd â hi y nos honno.

17 A Duw a wrandawodd ar Leah, a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.

18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, o herwydd rhoddi o honof fi fy llaw-forwyn i’m gwr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.

19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.

20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynnysgaeth dda; fy ngwr a drig weithian gyd â mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Zabulon.

21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dinah.

22 ¶ A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.

23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.

24 A hi a alwodd ei enw ef Joseph, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

25 ¶ A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseph, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun.

26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd â thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.

27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di.

28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf.