Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/436

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian’a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yh arfog i ryfel.

º25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.

º26 O feibion Lefi, pedair mil- a chwe chant. ‘

º27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.

º28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gaptein¬iaid.

º29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.

º30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ao, wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.

º31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysBysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.

º32 Ac o feibion Issachar; y.rbai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybodbeth a ddylai Israel ei wneuthur, eu pehaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.

º33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela a phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.

º34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, a tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.

º35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

º36 Ac o Aser yr oedd deugain mil ŷd myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. .

º37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

º38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon her-.-ffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.

º39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys en brodyr a arlwyasant iddynt hwy.

º40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

PENNOD 13

º1 A DAFYDD a ymgynghorodd â chap¬teiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’r holl dywysogion.

º2 A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a hod hyn o’r ARGLWYDD ein Duw, dantonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pen-trefol, i’w cynnull hwynt atom ni.

º3 A dygwn drachefn arch ein DRW atom ni; canys nid ymofynasom a hi yn nyddiau Saul.

º4 A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl.

º5 Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd-y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriathj earim.

º6 A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel i Baala, sef Ciriath-jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr AR¬GLWYDD DDUW, yr hwn sydd yn pres-wylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. .

º7 A hwy a ddygasant arch Duw ar fea newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahi’o oedd yn gyrru y fen.

º8 A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag utgyrn.

º9 A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hy-gwyd hi.

º10 Ac enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr