Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/502

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tu hwnt i’r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;

2:8 A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.

2:9 Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.

2:10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.

2:11 Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.

2:12 A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi, ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy NUW yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.

2:13 A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom, a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu a thân.

2:14 Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio.

2:15 A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl.

2:16 A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon, nac i’r offeiriaid, nac i’r pendefigion, nac i’r penaethiaid, nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.

2:17 Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd.

2:18 Yna y mynegais iddynt fod llaw fy NUW yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.

2:19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a’n gwatwarasant ni, ac a’n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?

2:20 Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, DUW y nefoedd, efe a’n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.


PENNOD 3

3:1 Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.

3:2 A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri.

3:3 A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt-hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau.

3:4 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.

3:5 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.

3:6 A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a’i gloeau, a’i farrau.

3:7 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon.

3:8 Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussid mab Harhaia, o’r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o’r apothe-