Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/517

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

1:16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus.

1:17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen, ond ni ddaeth hi.

1:18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter.

1:19 Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi.

1:20 A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf.

1:21 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan:

1:22 Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.

PENNOD 2

2:1 Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd Fasti, a’r hyn a wnaethai hi, a’r hyn a farnasid arni.

2:2 Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon:

2:3 A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd, a rhodder iddynt bethau i’w glanhau:

2:4 A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin, a deyrnasa yn lle Fasti. A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin, ac felly y gwnaeth efe.

2:5 Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini:

2:6 Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo.

2:7 Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad, canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo.

2:8 A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd.

2:9 A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd.

2:10 Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai.

2:11 A Mordecai a rodiodd beunydd flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.

2:12 A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;)