Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/532

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD 11

11:1 A Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

11:2 Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?

11:3 Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo?

11:4 Canys dywedaist. Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

11:5 Ond, O na lefarai DUW, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

11:6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag a haeddai dy anwiredd.

11:7 A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

11:8 Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

11:9 Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr.

11:10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?

11:11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?

11:12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

11:13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

11:14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddefi anwiredd drigo yn dy luestai:

11:15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

11:16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

11:17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

11:18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

11:19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb.

11:20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

PENNOD 12

12:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

12:2 Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

12:3 Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

12:4 Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar DDUW, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

12:5 Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed.

12:6 Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

12:7 Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

12:8 Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

12:9 Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn?

12:10 Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

12:11 Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?

12:12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

12:13 Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.

12:14 Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

12:15 Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.

12:16 Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus.

12:17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.

12:18 Efe sydd yn dattod rhwym