PENNOD 35
35:1 A Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,
35:2 A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw?
35:3 Canys dywedaist. Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod?
35:4 Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi.
35:5 Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.
35:6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os arni fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?
35:7 Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?
35:8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.
35:9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.
35:10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae DUW, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?
35:11 Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.
35:12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.
35:13 Diau na wrendy DUW oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.
35:14 Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.
35:15 Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:
35:16 Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.
PENNOD 36
36:1 A Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,
36:2 Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros DDUW.
36:3 O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawn¬der.
36:4 Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.
36:5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.
36:6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid.
36:7 Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.
36:8 Ac os hwy a rwymir a gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;
36:9 Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt:
36:10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.
36:11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
36:12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.
36:13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.
36:14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan.
36:15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.
36:16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.
36:17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.
36:18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr.
36:19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.
36:20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.
36:21 Ymochel, nac edrych ar an-