ddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
7:6 Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddtrcha, oherwydd llid fy ngely: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.
7:7 Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
7:8 Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
7:9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.
7:10 Fy amddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
7:11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
7:12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
7:13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
7:14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd gelwydd.
7:15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd i hefyd yn y clawdd a wnaeth.
7:16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
7:17 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei gyfiawnder; a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.
PSALM 8
8:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd. ARGLWYDD ein IOR ni, mor arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
8:2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
8:3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordenaist;
8:4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn i ti i ymweled ag ef?
8:5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist i gogoniant ac â harddwch.
8:6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
8:7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8:8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
8:9 ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
PSALM 9
9:1 I’r Pencerdd ar Muth-labben, Salm Dafydd. Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
9:2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.
9:3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
9:4 Canys gwnaethost fy mam a’m mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
9:5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.
9:6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.
9:7 Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.
9:8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
9:9 Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
9:10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.
9:11 Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
9:12 Pan ymofynno efe am waed, efe, a’u cofia hwynt: nid anghofia waed y cystuddiol.
9:13 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
9:14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
9:15 Y cenhedloedd a soddasant yn y