Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/584

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

68:27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.

68:28 Dy DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.

68:29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.

68:30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.

68:31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at DDUW.

68:32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i DDUW; canmolwch yr Arglwydd: Sela:

68:33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

68:34 Rhoddwch i DDUW gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau.

68:35 Ofnadwy wyt, O DDUW, o’th gysegr: DUW Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo DUW.


SALM 69

69:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd. Achub fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.

69:2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.

69:3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW.

69:4 Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.

69:5 O DDUW, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.

69:6 Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel.

69:7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.

69:8 Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.

69:9 Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.

69:10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.

69:11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.

69:12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.

69:13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.

69:14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.

69:15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.

69:16 Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

69:17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.

69:18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.

69:19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

69:20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.

69:21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.

69:22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.

69:23 Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.

69:24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.

69:25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.

69:26 Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.