Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/590

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

78:30 Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,

78:31 Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.

78:32 Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.

78:33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.

78:34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.

78:35 Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Gorachaf DDUW oedd eu Gwaredydd.

78:36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:

78:37 A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.

78:38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt - ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.

78:39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

78:40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?

78:41 Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.

78:42 Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

78:43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:

78:44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.

78:45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.

78:46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust.

78:47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.

78:48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.

78:49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.

78:50 Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.

78:51 Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:

78:52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.

78:53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.

78:54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.

78:55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

78:56 Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:

78:57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.

78:58 Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.

78:59 Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:

78:60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;

78:61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.

78:62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.

78:63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.

78:64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.

78:65 Yna y deffrodd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.

78:66 Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.

78:67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:

78:68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.

78:69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel