flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
96:7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
96:8 Rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
96:9 Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
96:10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
96:11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyfiawnder.
96:12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant
96:13 O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
SALM 97
97:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.
97:2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.
97:3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
97:4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.
97:5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
97:6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
97:7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau.
97:8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O ARGLWYDD.
97:9 Canys ti, ARGLWYDD, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
97:10 Y rhai a gerwch yr ARGLWYDD, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol.
97:11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
97:12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr ARGLWYDD; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
SALM 98
98:1 Salm. Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth
98:2 Hysbysodd yr ARGLWYDD ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
98:3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein DUW ni.
98:4 Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
98:5 Cenwch i’r ARGLWYDD gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
98:6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.
98:7 Rhued y môr a’i gyfiawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
98:8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd.
98:9 O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
SALM 99
99:1 YR ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
99:2 Mawr yw yr ARGLWYDD yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
99:3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
99:4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyflawnder a wnei di yn Jacob.
99:5 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW; ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.