Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/602

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.

104:5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei symudo byth yn dragywydd.

104:6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.

104:7 Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.

104:8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.

104:9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.

104:10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.

104:11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.

104:12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.

104:13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.

104:14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear;

104:15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.

104:16 Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;

104:17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.

104:18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.

104:19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.

104:20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.

104:21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW.

104:22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.

104:23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.

104:24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.

104:25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.

104:26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.

104:27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.

104:28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.

104:29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.

104:30 Pan ollyngych dy ysbryd, y creir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.

104:31 Gogoniant yr ARGLWYDD fydd yn dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd.

104:32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.

104:33 Canaf i’r ARGLWYDD tra fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.

104:34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD.

104:35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.


SALM 105

105:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

105:2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

105:3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.

105:4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.

105:5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;

105:6 Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.

105:7 Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.