Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/608

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.

112:7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

112:8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.

112:9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.

112:10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.


SALM 113

113:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gweision yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.

113:2 Bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd.

113:3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.

113:4 Uchel yw yr ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.

113:5 Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein DUW ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,

113:6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?

113:7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,

113:8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.

113:9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr ARGLWYDD.


SALM 114

114:1 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;

114:2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.

114:3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.

114:4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 114:5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?

114:6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel y defaid?

114:7 Ofna, di ddaear, rhag yr ARGLWYDD, rhag DUW Jacob:

114:8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, ar gallestr yn ffynnon dyfroedd.


SALM 115

115:1 Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.

115:2 Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?

115:3 Ond ein DUW, ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

115:4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.

115:5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:

115:6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:

115:7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.

115:8 Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

115:9 O Israel, ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.

115:10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.

115:11 Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe eu porth a'u tarian.

115:12 Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

115:13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.

115:14 Yr ARGLWYDD a'ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.

115:15 Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.

115:16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt