Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/665

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:19 A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll.

7:20 Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe.

7:21 A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner-fuwch, a dwy ddafad:

7:22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir.

7:23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd.

7:24 â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad.

7:25 Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.


PENNOD 8

º1 AR ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni a phin dyn, am Maher-shalalhas-bas.

º2 A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.

º3 A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Galw ei enw ef, Maher-shalalhas-bas.

º4 Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, nea, Fy main, gclud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.

º5 A chwanegodd yr ARGLWYDD lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,

º6 Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:

º7 Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogonant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.

º8 Ie, ti-wy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a & drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.

º9 Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir.

º10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.

º11 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf a llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,

º12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch.

º13 ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi:

º14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagi ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem.

º15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.

º16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

º17 A minnau a ddisgwyliaf am yr AR¬GLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dy Jacob, ac a wyliaf amdano.

º18 Wele fi a’r plant a roddes yr AR¬GLWYDD i mi, yn arwyddiou ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD’y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.

º19 <il A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch a’r swynyddion, ac a’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid a’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw?

º20 At y gyfraith, ac at y dystiotaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hyany sydd am nad oes oleuni ynddynt.

º21 A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan, newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny.